Croeso i Borth Lidar Arfordir Penfro!
Crëwyd y porth hwn i roi cyfle unigryw i ymchwilio i dreftadaeth gyfoethog tirwedd Penfro gyda help technoleg fodern iawn.

Mae’r rhan o Sir Benfro a gaiff ei hasesu ar gyfer y prosiect hwn yn ymestyn o’r arfordir i’r mynyddoedd ac mae’n cynnwys tystiolaeth o sut mae pobl wedi byw a gweithio yma drwy’r canrifoedd. Yn y lidar mi allwn olrhain llociau amddiffynnol o’r cyfnod cynhanes, crugiau’r oes efydd, tir amaethyddol canoloesol a “gwelyau diogyn” a safleoedd milwrol yr Ail Ryfel Byd. Fodd bynnag, mae cannoedd o safleoedd yn aros i gael eu harchwilio a’u cofnodi drwy ddefnyddio’r data lidar, a dyma lle gallwch chi helpu!
Ar y cwrs ar-lein hwn byddwn yn darparu’r adnoddau a fydd eu hangen arnoch i fod yn dditectif y dirwedd, i ddehongli’r data lidar i ddarganfod nodweddion newydd ac i roi dyfnder i’n cyd-ddealltwriaeth o’r gorffennol.
Rhestrir holl fodiwlau’r cwrs isod. Gallwch glicio ar y botwm ehangu i weld y pynciau ym mhob modiwl. Cliciwch ar y Cyflwyniad i ddechrau arni.